This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion ac Awdurdodau Lleol Data

Pam cofnodi data ar blant Milwyr?

  • Data yw'r allwedd i ddeall effaith bywyd yn y Lluoedd Arfog ar blant Milwyr
  • Gall ysgolion fod wedi paratoi’n well i gefnogi plant Milwyr
  • Gellir gwneud cymariaethau o ran lefelau cyrhaeddiad rhwng plant Milwyr a phlant nad ydynt yn blant Milwyr
  • Gellir canfod patrymau o ran absenoldeb o'r ysgol
  • Gall awdurdodau lleol baratoi i gefnogi plant milwyr o ran eu hiechyd meddwl a'u hanghenion o ran lles
  • Gall asiantaethau ddarparu cefnogaeth a nodi lle mae yna fylchau o ran darpariaeth
  • Gellir targedu adnoddau i gefnogi anghenion penodol mewn lleoliadau daearyddol gwahanol
  • Gellir cynnal ymchwil pellach gyda grŵp cynhwysol o gyfranogwyr

Yn Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru 2019, fe wnaeth Kirsty Williams AC, y Gweinidog dros Addysg yr ymrwymiad i gasglu data ar blant Milwyr yng Nghymru. Mae SSCE Cymru a Chyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithredu’r newid hwn.

*Diffiniad 1 (Diffiniad Llywodraeth Cymru)

Mae gan 'blentyn y Lluoedd Arfog' riant / rhieni – neu unigolyn/unigolion gyda chyfrifoldeb rhiant gweithredol sy’n aelodau o’r Lluoedd Arfog:

• yn Lluoedd Arfog Parhaol Ei Mawrhydi
• gydag ymrwymiad llawn fel rhan o’r gwasanaeth Wrth Gefn llawn-amser
• yn gyn-filwr sydd wedi bod yn Gwasanaethu o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf
• bu farw un o’u rhieni wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac mae’r disgybl yn derbyn pensiwn dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu’r Cynllun Pensiynau Rhyfel. 

**Diffiniad 2

Unigolyn y mae ei riant, neu brif ofalwr, yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog parhaol, neu fel milwr wrth gefn, neu wedi gwneud hynny ar unrhyw bryd yn ystod 25 mlynedd gyntaf bywyd yr unigolyn hwnnw (SCiP Alliance diffiniad) - ac nad yw’n cwrdd â'r meini prawf yn niffiniad 1.

Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Gweithiodd SSCE Cymru gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal gweithgaredd casglu data, i roi cipolwg ar nifer a lleoliad plant Milwyr yng Nghymru ym mis Mawrth 2021.

 

Cliciwch ar enw awdurdod lleol i weld y data.

Ynys Mon Conwy Sir Ddinbych Sir y Fflint Gwynedd Wrecsam Powys Ceredigion Sir Gaerfyrddin Sir Benfro Abertawe Castell-nedd Port Talbot Pen-y-bont ar Ogwr Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Blaenau Gwent Caerffili Tor-faen Caerdydd Casnewydd Bro Morgannwg Sir Fynwy

At pwrpas yr ymarfer casglu data, anogodd SSCE Cymru awdurdodau lleol ac ysgolion i nodi plant y Lluoedd Arfog mewn dau ddiffiniad (gweler uchod), y data a ddarperir yn y map gwres yw cyfanswm y ddau ddiffiniad, lle y'u darparwyd. Mae'r data hefyd yn cynnwys ysgolion annibynnol yng Nghymru.

  Nifer y Plant Lluoedd Arfog
Awdurdod lleol Cyfanswm nifer yr ysgolion Ysgolion â phlant y Lluoedd Arfog Diffiniad 1* Diffiniad 2** Cyfanswm
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 29 6 13 2 15
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 59 32 64 37 101
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 85 24 64 50 114
Cyngor Caerdydd 130 40 79 26 105
Cyngor Sir Gar 113 44 77 64 141
Cyngor Sir Ceredigion 47 2 7 1 8
Cyngor Bwrdeistref Sirol 63 19 61 37 98
Cyngor Sir Ddinbych 56 25 50 52 102
Cyngor Sir y Fflint anhysbus anhysbus anhysbus anhysbus anhysbus
Cyngor Gwynedd 98 9 45 11 56
Cyngor Sir Ynys Mon 47 8 68 7 75
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 28 21 36 30 66
Cyngor Sir Fynwy 67 14 38 18 56
Cyngor Castell-nedd Port Talbot 62 26 72 anhysbus 72
Cyngor Dinas Casnewydd 55 24 72 18 90
Cyngor Sir Penfro 62 20 149 54 203
Cyngor Sir Powys 97 32 224 anhysbus 224
Cyngor Rhondda Cynon Taf 115 50 114 41 155
Cyngor Abertawe 95 34 66 48 114
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen 33 17 25 anhysbus 25
Cyngor Bro Morgannwg 56 27 286 anhysbus 286
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 69 16 23 17 40
    494 1633 513 2146

Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Cymru: Astudiaeth o Ddata a’r Ddarpariaeth o ran Cefnogaeth yng Nghymru (2015)

Wedi ei gomisiynu gan SSCE Cymru a’i reoli gan Uned Ddata Cymru fe arweiniodd yr adroddiad hwn at gynnal cyfweliadau gydag ysgolion ar draws Cymru a chanfuwyd mai ychydig iawn o ddata oedd ar gael, gan ddangos yr angen am fwy o wybodaeth ac arweiniad i alluogi ysgolion i gasglu data a chael mynediad at gefnogaeth.

Yr hyn roedd yr adroddiad yn ei ganfod, wedi ei seilio ar y data mwyaf diweddar o’r cyfrifiad (2011), yw fod yna deuluoedd milwyr gyda phlant hyd at 16 oed ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae data cyfrifiad 2011 yn dangos isafswm o 2,486 o blant yng Nghymru lle roedd Person Cyswllt y Cartref yn nodi ei fod ef neu hi yn y Lluoedd Arfog. Nid yw hyn yn cynnwys gwybodaeth lle mae’r sawl nad yw’n Berson Cyswllt  y Cartref yn y Lluoedd Arfog, na gwybodaeth ar gyn-filwyr neu filwyr wrth gefn neu lle nad yw teuluoedd gyda phlant Milwyr yn byw yn yr un cyfeiriad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn yma

Rhoi gwybod i SSCE Cymru am y plant Milwyr sydd yn eich ysgol

Helpwch ni i gasglu data ar y nifer a lleoliad plant Milwyr yng Nghymru fel y gallwn sicrhau fod ysgolion yn cael y budd mwyaf posibl o’r ystod eang o adnoddau a chefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Gweler y Templed: Llythyr i rieni yn adran Adnoddau SSCE Cymru ar ein gwefan.

Drwy gwblhau’r ffurflen ganlynol byddwch hefyd yn cofrestru ar gyfer newyddlen chwarterol SSCE Cymru, sy'n darparu manylion am y digwyddiadau, adnoddau, cyllid a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy Rwydwaith SSCE Cymru.

Gwybodaeth am yr ysgol

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan