O fis Ionawr 2021, mae rheoli achosion bellach ar gael i ysgolion sydd â phlentyn Gwasanaeth unigol neu nifer fach iawn o blant Milwyr sydd yn angen penodol sy'n gysylltiedig ag effaith eu ffordd o fyw yn y Lluoedd Arfog.
Er enghraifft, oherwydd symudedd teuluoedd y Lluoedd Arfog a’r effaith academaidd, cymdeithasol ac emosiynol y gall hynny ei gael ar Blant y Lluoedd Arfog, gall materion godi sydd angen cefnogaeth a allai fod y tu hwnt i allu’r ysgol ac/ neu’r awdurdod lleol (ALl). Yn yr achosion hyn, bydd y Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn gweithio gyda'r ysgol a'r ALl i nodi cefnogaeth y gellid cael mynediad iddo i oresgyn rhwystr/au mae’r unigolyn neu grwpiau bychan o blant y Lluoedd yn eu wynebu.
Bydd yr RSLOs yn rheoli'r cymorth hwn – cydlynu ymyrraeth/ymyriadau, monitro'r cynnydd a mesur yr effaith gyda phob ysgol. Bydd gan RSLOs fynediad at gyllid ar gyfer rhai o'r ymyriadau hyn pan fydd angen. Yna bydd cymhorthydd rheoli achosion gan RSLOs ar gael er mwyn i ysgolion gael mynediad ar unrhyw adeg yn ystod o flwyddyn.
Os oes gan eich ysgol blentyn unigol neu nifer fach iawn o blant milwr yrydych yn meddwl y gallai fod angen y cymorth hwn arnynt, cysylltwch â'r RSLO ar gyfer eich rhanbarth i drafod y broses rheoli achos ymhellach.