Pwrpas Pecyn Gwaith i Ysgolion SSCE Cymru ydi rhoi gwybodaeth i ysgolion, awdurdodau lleol a gweithwyr addysg proffesiynol am brofiadau plant y Lluoedd Arfog, a’u helpu i ddeall y gefnogaeth sydd ar gael iddynt i’w cynorthwyo i helpu plant y Lluoedd Arfog yn y ffordd gorau posibl.
Lluniwyd y Pecyn Gwaith hwn gyda chymorth Rhwydwaith SSCE Cymru, a greodd a gwiriodd y cynnwys i sicrhau mai’r wybodaeth mwyaf perthnasol a chywir sy’n cael ei darparu.
Mae Pecyn Gwaith i Ysgolion SSCE Cymru yn cynnwys yr adrannau canlynol:
- Y Lluoedd Arfog yng Nghymru
- Profiadau plant y Lluoedd Arfog
- Addysg yng Nghymru
- Data plant y lluoedd arfog a derbyniadau ysgol
- Iechyd meddwl a lles
- Darpariaeth Ieuenctid
- Cyllid
- Ymchwil.
Mae pob adran o Becyn Gwaith i Ysgolion SSCE Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth am sefydliadau cefnogi amrywiol a dolenni perthnasol at adnoddau, ynghyd â rhestr o gamau gweithredu/gweithgareddau a awgrymir ar gyfer yr ysgol.
Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth i Ysgolion yma
Dylid anfon unrhyw ymholiadau neu adborth am gynnwys y Pecyn Gwaith yn uniongyrchol i SSCECymru@wlga.gov.uk
Lansio: Mawrth 2020