This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyfeiriadur cefnogaeth WICID.tv (ar gyfer Rhondda Cynon Taf)

WICID.tv (ar gyfer Rhondda Cynon Taf)

WICID.tv yw’r wefan gwybodaeth a chyfryngau ieuenctid i bobl ifanc sy’n cael ei rhedeg gan bobl ifanc. Lansiwyd y wefan yn 2011 ac mae wedi gweithio ers hynny i roi mynediad i bobl ifanc 9-25 oed at gyfleoedd creadigol ac i ddarparu llwybr at yr yrfa o’u dewis. Mae WICID.tv hefyd yn cynnwys llawer o wybodaeth i bobl ifanc a gall helpu i’w cyfeirio at sefydliadau sy’n gallu cynnig cyngor, cymorth a chyfarwyddyd arbenigol.

Rhondda Cynon Taf at amrywiaeth o weithgareddau am ddim yn ystod amseroedd cinio, ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau ysgol. Mae hefyd yn rhedeg clybiau ieuenctid (rhwng 5pm a 8pm ar y rhan fwyaf o nosweithiau) ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed.

Edrychwch i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal leol YMA.

www.wicid.tv

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan