This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyfeiriadur cefnogaeth Sweet Education

Sweet Education

Mae adnoddau Llwyddo’n cynorthwyo plant ysgolion uwchradd i gyflawni cymhwyster BTEC Lefel 1 neu 2 mewn Twf Personol a Lles.  Mae ein hadnoddau yn cael eu mapio yn erbyn MDPh Iechyd a Lles a Chwricwlwm newydd ACRh yng Nghymru, a’r cwricwlwm ABGI newydd yn Lloegr. Mae ein hadnoddau yn berffaith ar gyfer ysgolion sydd eisiau hyrwyddo iechyd meddwl a lles, ac eisiau addysgu myfyrwyr i fod yn oedolion ifanc hapusach, iachach ac yn fwy llwyddiannus.

Mae adnoddau Llwyddo’n dod mewn pecynnau o wyth llyfr gwaith, a bydd angen un o’r rhain ar gyfer pob disgybl. Er bod yr adnoddau yn cynorthwyo dysgwyr i gyflawni cymhwyster BTEC, nid oes yn rhaid eu defnyddio gyda rhai 14-16 oed yn unig. Mae nifer o’n canolfannau’n defnyddio llyfrau Llwyddo o flwyddyn 7 i gynorthwyo dysgwyr i ddechrau ar eu teithiau iechyd meddwl a lles a dysgu sut i ymdopi â heriau mawr bywyd. Mae gennym ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd, colegau, unedau cyfeirio disgyblion a sawl lleoliad addysgol arall.

Mae wyth llyfryn i gyd, yn ymdrin ag iechyd rhyw, emosiynol a chorfforol, ynghyd â sgiliau cymdeithasol, hunaniaeth bersonol, ymwybyddiaeth amgylcheddol, cyllid a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal â’r adnoddau, ar ôl cofrestru gyda ni, byddwch yn derbyn yr holl ddeunydd ategol i’ch cynorthwyo i gyflwyno’r cymhwyster. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth barhaus gan eich gwiriwr Llwyddo, cynlluniau asesu, elfennau cychwynnol a llawn, cyflwyniadau PowerPoint, mapiau sgiliau a chynlluniau marcio manwl.

Mae adnoddau Llwyddo ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Maent hefyd ar gael fel gwerslyfrau papur neu gellir cael mynediad atynt ar-lein drwy ein llwyfan ddigidol newydd!

Adnoddau perthnasol:

www.sweet.education/

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan