This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyfeiriadur cefnogaeth Rhaglen Gymorth Airplay

Rhaglen Gymorth Airplay

Airplay yw rhaglen gymorth Cronfa Les yr Awyrlu Brenhinol (RAFBF) ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â’u rhieni’n gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol. Mae’r rhaglen yn para am 12 mlynedd ac mae ganddi gyllid o £24 miliwn. Fel prif elusen les yr Awyrlu, roedd RAFBF wedi sefydlu rhaglen Airplay mewn ymateb i ymchwil a oedd yn dangos mai cadw pobl ifanc yn brysur a diogel oedd ail bryder mwyaf teuluoedd yr Awyrlu, ar ôl tai.

Mae Cymorth Ieuenctid Airplay yn ceisio gwella ansawdd y ddarpariaeth yn holl orsafoedd yr Awyrlu fel y bydd plant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr yn gallu bod yn dawel eu meddwl y bydd Airplay ar gael iddynt, ble bynnag y maen nhw yn y DU, i estyn croeso cynnes a darparu amgylchedd cefnogol.

Yng ngorsaf RAF y Fali, yn Ynys Môn, mae prosiect Airplay yn cael ei oruchwylio gan y swyddog Datblygu Cymunedol, sy’n cydgysylltu nifer o weithgareddau i blant a phobl ifanc, darpariaeth yn ystod y gwyliau, sesiynau teuluol a phrosiectau i helpu rhieni.

www.rafbf.org

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan