This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Plant y Lluoedd Arfog

Gwybodaeth ar gyfer plant aelodau’r Lluoedd Arfog

Mae SSCE Cymru yn deall y byddwch o bosibl wedi wynebu profiadau unigryw adref ac yn yr ysgol oherwydd bod un o’ch rhieni, neu’r ddau, yn gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Mae’n bosib y byddwch wedi byw dramor, wedi symud ysgol a symud ty ynghanol y flwyddyn, wedi gorfod gwneud ffrindiau newydd, wedi gorfod ymdopi â’ch rhieni/rhiant yn mynd i ffwrdd i weithio neu wedi gorfod cefnogi ffrind drwy un o’r profiadau hyn. Mae llawer o’r profiadau bywyd hyn y gallu bod yn gyffrous ac yn ddiddorol ond maen nhw hefyd yn gallu bod yn heriol.  Mae pob plentyn yn delio gyda’r emosiynau maen nhw’n eu teimlo yn ystod y profiadau hyn mewn ffyrdd gwahanol.

Pwrpas rhaglen SSCE Cymru yw sicrhau bod athrawon a staff mewn ysgolion yng Nghymru yn deall pa brofiadau a heriau y byddwch o bosibl wedi eu hwynebu o ganlyniad i’r ffordd y mae teuluoedd y Lluoedd Arfog yn byw.  Mae SSCE Cymru yn darparu adnoddau sy’n helpu ysgolion i gefnogi plant aelodau’r Lluoedd Arfog er mwyn sicrhau eu bod yn cael y profiadau mwyaf cadarnhaol wrth fynychu ysgol neu ysgolion yng Nghymru.

Gwrando ar Blant Milwyr canfyddiadau (2020).

Gwnaeth 51% ohonyn nhw sylwadau negyddol am adael eu ffrindiau/teulu, Ar y llaw arall, gwnaeth 31% sylwadau cadarnhaol am gwrdd â phobl newydd/gwneud ffrindiau.

Ynglŷn â Chymru

Mae Cymru yn wlad o fewn y Deyrnas Unedig (DU) ac mae’n gyfrifol am wneud llawer o’i phenderfyniadau ei hun am addysg.  Mae’n debyg i wledydd eraill y DU ond hefyd yn wahanol mewn sawl ffordd.
Mae Cymru i’r gollewin o Loegr, mae’r amser yma a’r arian sy’n cael ei ddefnyddio yr un fath a gweddill y DU sef,  Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Caerdydd yw prifddinas Cymru.

Diwylliant

Mae’r Cymry’n falch iawn o’u diwylliant a’u treftadaeth.  Y Ddraig Goch, Cennin Pedr a chennin yw’r symbolau cenedlaethol. Yr anthem genedlaethol yw Hen Wlad fy Nhadau.

Mae Dydd Gŵyl Dewi, nawddsant Cymru, ar 1 Mawrth.  Mewn llawer o ysgolion ar draws Cymru mae’r diwrnod hwn yn cael ei nodi gyda gweithgareddau arbennig ac mae rhai plant yn gwisgo’r wisg draddodiadol Gymreig; bydd eraill yn gwisgo crysau rygbi neu’n gwisgo Cennin Pedr neu gennin.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ŵyl o gerddoriaeth, llenyddiaeth a pherfformio.  Mae rhai ysgolion yng Nghymru yn cynnal eu heisteddfod eu hunain fel rhan o’u dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.  Mae hyn gynnwys celf a chrefft, ysgrifennu cerddi a straeon a chanu ac adrodd. Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn Gymraeg a Saesneg.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am Ddydd Gŵyl Dewi yma.

 

Addysg

Mae addysg yn orfodol i blant a phobl ifanc rhwng 5-16 oed ac yn cael ei ariannu gan y wlad. Mae cwricwlwm Cymru yn wahanol i gwricwlwm gwledydd eraill y DU, sy’n golygu y byddwch o bosib yn dysgu gwahanol bynciau ac am wahanol bethau.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Gymru yma.

Adnoddau a chymorth

Little Troopers

Mae’r elusen hon yn cefnogi plant teuluoedd y Lluoedd Arfog o oedran ysgol, gan roi cyngor ac adnoddau i gefnogi plant yn y dosbarth ac yn y cartref.

Bydd angen i chi fewngofnodi i weld rhai o'r adnoddau isod.

Adnoddau perthnasol

www.littletroopers.net

Reading Force

Mae’r sefydliad hwn yn defnyddio llyfrau i ddod â phlant a theuluoedd aelodau’r Lluoedd Arfog yn agosach at ei gilydd.  Menter darllen ar y cyd yw hon i annog teuluoedd i siarad a thrafod llyfrau er mwyn gwella cyfathrebu a chyfoethogi perthnasoedd.

Adnoddau perthnasol

www.readingforce.org.uk

Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog

"Ein nod yw helpu i ariannu addysg plant y lluoedd arfog sydd wedi bod o dan anfantais oherwydd gwasanaeth eu rhieni. Rydym hefyd yn darparu cyllid i ysgolion ar gyfer adnoddau ychwanegol i gefnogi addysg plant sydd a rhieni yn gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog."

Adnoddau perthnasol

Gwybodaeth am grantiau unigol a sut i wneud cais
Gwybodaeth am grantiau cyfunol i'r ysgol a sut i wneud cais

www.armedforceseducation.org

Llinellau Cymorth a Chefnogaeth

Barnardo's

Mae tyfu i fyny yn anodd i bawb ond mae’n fwy anodd i rai. Mae Barnardo’s yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol er mwyn rhoi’r hyder sydd ei angen ar bobl ifanc i’w galluogi i gyflawni eu llawn botensial fel oedolion.

Adnoddau Perthnasol:

https://www.barnardos.org.uk/

ChildLine

Mae’r sefydliad ymgyrchu hwn yn dweud:  "Rydym yma i chi, beth bynnag sydd ar eich meddwl.  Byddwn yn eich cefnogi ac yn eich arwain.  Gallwn eich  helpu chi i wneud y penderfyniadau cywir i chi." Maen nhw’n cynnig cyngor defnyddiol a thechnegau, syniadau ac ysbrydoliaeth a fydd yn eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros eich bywyd. Gallwch gysylltu â nhw yn eich amser eich hun, pan ‘da chi’n barod i wneud hynny.

Adnoddau Perthnasol:

Ffoniwch 0800 1111 am gymorth

https://www.childline.org.uk/

Meic

Meic yw’r llinell gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.  I ddarganfod beth sy’n mynd ymlaen yn eich ardal leol, drwodd i'ch helpu i ddelio  gyda sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando pan ‘does neb arall yn barod i wneud. Fydd Meic ddim yn eich beirniadu chi ond yn eich helpu chi drwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol  a chefnogaeth i chi er mwyn eich helpu chi i newid pethau.

Adnoddau Perthnasol

https://www.meiccymru.org/

Darpariaeth Ieuenctid

RFCA

Mae’r sefydliad hwn yn rhoi gwasanaethau cymorth yn uniongyrchol i filwyr wrth gefn a chadetiaid y Llynges Frenhinol, y Fyddin a’r Awyrlu.

Adnoddau Defnyddiol

  • Pam bod yn gadet?
www.wales-rfca.org/

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae’r sefydliad hwn yn rhoi gwybodaeth am nifer o wasanaethau yn eich ardal leol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer pobl ifanc.

www.fis.wales/

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan