This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ymgysylltu ag SSCE Cymru De Cymru

De Cymru

Ellis Regan

Ellis.Regan@rctcbc.gov.uk 

07385 389569

Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg

Ar ôl ymgymryd â'i gradd mewn Astudiaethau Addysg, aeth ymlaen wedyn i gwblhau Cwrs Cynradd TAR, gan gymhwyso'n llwyddiannus fel athrawes Ysgol Gynradd.

Mae Ellis yn angerddol am sicrhau y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal mewn addysg i gyflawni eu potensial. Yn benodol, mae Ellis yn teimlo'n gryf y dylai plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gael llais cyfartal ac fel rhan o'i chymhwyster, cynhaliodd Ellis astudiaeth ynghylch archwilio agweddau tuag at gynnwys ac integreiddio plant ag ADY mewn ysgolion prif ffrwd. Mae Ellis yn credu'n galonnog, os bydd pob plentyn yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt, yn academaidd ac yn fugeiliol, y byddant yn gallu ffynnu a llwyddo mewn addysg a thu hwnt. Mae Ellis yn credu y gall y dull cyfannol hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiadau pob plentyn.

Mae Ellis yn angerddol am gynyddu dealltwriaeth o brofiadau plant y Lluoedd Arfog mewn ysgolion a lleoliadau addysg ledled De Cymru ac mae'n gweithio'n agos gyda'r addysgwyr hynny i'w cefnogi i wreiddio arfer da.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan