This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Am SSCE Cymru Rhwydwaith SSCE Cymru

Rhwydwaith SSCE Cymru

Erbyn hyn mae gan Rwydwaith SSCE Cymru 400 o aelodau sy’n cynnwys disgyblion ysgolion, staff awdurdodau lleol, aelodau etholedig, personél y Lluoedd Arfog, elusennau, sefydliadau cymorth a gweithwyr addysg proffesiynol.

Mae gan bob aelod o rwydwaith SSCE Cymru ddiddordeb yn addysg plant aelodau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru. Maent yn cyfrannu cynnwys ar gyfer newyddlen chwarterol SSCE Cymru; yn helpu i hyrwyddo’r adnoddau, y deunyddiau a’r gefnogaeth a roddir gan SSCE Cymru ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran cefnogi plant aelodau’r Lluoedd Arfog.

Drwy ymuno â Rhwydwaith SSCE Cymru, rydych yn cytuno i dderbyn gwybodaeth berthnasol gan SSCE Cymru. Bydd hyn yn cynnwys newyddlen chwarterol, gwybodaeth am gyllid i gefnogi plant aelodau’r Lluoedd Arfog mewn addysg a gwahoddiadau i ddigwyddiadau SSCE Cymru. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw qan SSCE Cymru ac ni fyddant yn cael eu rhannu heb gael eich caniatâd chi yn gyntaf.  I ddod allan o Rwydwaith SSCE Cymru cysylltwch â SSCECymru@wlga.gov.uk

Aelodau rhwydwaith SSCE Cymru

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan