Cyflwynir y sesiwn DPP ddwy awr gan y Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol (RSLOs) ar gyfer Plant Milwyr ar Microsoft Teams ar gyfer hyd at 15 o gyfranogwyr. Mae'r hyfforddiant yn addas ar gyfer nifer fach o staff allweddol o bob ysgol, a fyddai'n elwa o ddeall anghenion plant y Lluoedd Arfog yn fanylach.
Nodau'r sesiwn hyfforddi:
- Codi ymwybyddiaeth o anghenion plant y Lluoedd Arfog
- Cynyddu hyder staff wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog yn yr ysgol
Agenda:
1. Cyflwyniad i SSCE Cymru
2. Lluoedd Arfog yng Nghymru
3. Profiadau plant y Lluoedd Arfog
4. Addysg yng Nghymru
5. Data a derbyniadau i ysgolion
6. Iechyd meddwl a lles
7. Gweithgareddau allgyrsiol
8. Cyllid ar gyfer ysgolion
9. Ymchwil a thystiolaeth
Mae'r sesiwn ddwy awr yn cynnwys llawer o gyfleoedd i drafod, adborth a chwestiynau ynghylch profiadau plant y Lluoedd Arfog a'r camau y gall yr ysgol eu cymryd i ymgorffori arfer da. A certificate will be awarded to all participants on completion of the CPD training.
Fel rhan o Fis y Plentyn Milwrol ym mis Ebrill, drwy gydol yr wythnos sy'n dechrau ar 19eg Ebrill, mae SSCE Cymru yn cynnig cyfle i bob ysgol yng Nghymru sydd gyda plant y Lluoedd Arfog gymryd rhan mewn un o 60 o sesiynau DPP a amserlennwyd drwy gydol yr wythnos. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer un o'r sesiynau, ewch i dudalen Digwyddiadau SSCE Cymru.