This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyfeiriadur cefnogaeth Naval Service Family and People Support (NS FPS)

Naval Service Family and People Support (NS FPS)

Mae Cymorth i Deuluoedd a Phobl y Llynges yn darparu ystod o wasanaethau i gefnogi Staff y Lluoedd a’u Teuluoedd lle bynnag rydych yn byw neu lle rydych wedi eich lleoli yn y DU a Thramor.

LLEOLI: ymgysylltu gydag Unedau, briffio staff, creu gwybodaeth bwrpasol, rheoli Fforwm y Llynges a'r Cyfryngau Cymdeithasol, ymgysylltu trwy weithgareddau, i ddarparu cefnogaeth bersonol mewn cyfnod o argyfwng, darperir ar gyfer pob math o angen. I ofyn am Becyn Gwybodaeth Lleoli neu Flwch Atgofion Plentyn e-bostiwch rnrm-wio@royalnavymail.mod.uk

GWYBODAETH:  Mae gwybodaeth gefnogol ar gael yn ôl yr angen ac mae’n ddefnyddiol wrth adleoli, wrth edrych am wasanaeth penodol neu os oes gennych chi gwestiwn na allwch ddod o hyd i'r ateb ar ei gyfer. Drwy ymchwil rheolaidd rydym yn sicrhau fod gwybodaeth gyfredol a pherthnasol ar gael i bawb. Ebostiwch rnrm-wio@royalnavymail.mod.uk

CYFATHREBU: darparu gwybodaeth ddigidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Ymgysylltu Teuluol. www.royalnavy.mod.uk/forums; www.facebook.com/RoyalNavyFPS

CYMUNED: darparu gweithgareddau a digwyddiadau i ddiwallu anghenion Cymuned y Llynges ar-lein a wyneb yn wyneb.

TOSTURIO:  Mae yna adegau pan allwch fod angen gwasanaeth mwy arbenigol i roi cefnogaeth i chi yn ystod argyfwng neu sefyllfa bersonol.

Mae ein staff gwaith achos yn cynnig arweiniad a chefnogaeth, sydd un ai yn gefnogaeth ymarferol neu emosiynol, ac fe fyddant yn siarad ar eich rhan yn uniongyrchol neu mewn cysylltiad ag asiantaethau eraill.

Ffoniwch Borth Cymorth i Deuluoedd a Phobl y Llynges ar 0800 145 6088 neu 023 9272 8777

www.royalnavy.mod.uk

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan